Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 3 Chwefror 2021
Amser:
09.02 -
12.26
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11047
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Dai Lloyd AS (Cadeirydd) Jayne Bryant AS Angela Burns AS Lynne Neagle AS David Rees AS |
Tystion: |
Alyson Thomas, Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru Geoff Ryall-Harvey, Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru Donna Coleman, Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda Angela Mutlow, Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan Richard Johnson, Coleg Brenhinol y Llawfeddygon Mark Griffiths, Fferylliaeth Gymunedol Cymru Suzanne Scott-Thomas, Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Yr Athro Peter Saul, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Dr Olwen Williams, Coleg Brenhinol y Meddygon Lisa Turnbull, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhun ap Iorwerth AS.
2 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Chynghorau Iechyd Cymuned Cymru
2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru.
2.2 Datganodd Jayne Bryant AS fod ei mam yn aelod gwirfoddol o Gyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan.
3 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru, Coleg Fferylliaeth Gymunedol Cymru a'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol
3.1 Sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru, Coleg Fferylliaeth Gymunedol Cymru a Chymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru.
3.2 Cyhoeddodd y Cadeirydd fod gan ei ferch swydd fel cynorthwyydd fferyllol.
4 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Choleg Brenhinol y Meddygon, Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, a Choleg Nyrsio Brenhinol Cymru
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Goleg Brenhinol y Meddygon, Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, a Choleg Nyrsio Brenhinol Cymru.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch ymchwiliad y Pwyllgor i ofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion yng Nghymru
5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5.2 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch ymchwiliad y Pwyllgor i ofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion yng Nghymru
5.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5.3 Profiadau'r cyhoedd o'r system Profi, Olrhain, Diogelu yng Nghymru: Ymchwil a gomisiynwyd gan Senedd Cymru, wedi'i chynhyrchu drwy ymgynghori â Gwasanaeth Ymchwil y Senedd
5.3 Nododd y Pwyllgor y papur ymchwil.
5.4 Llythyr gan y Cadeirydd at fyrddau iechyd lleol ynghylch amseroedd aros
5.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5.5 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cyllid amseroedd aros
5.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
7 COVID-19: Trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8 Blaenraglen waith
8.1 Trafododd y Pwyllgor bapur y flaenraglen waith a chytunwyd ar y dull arfaethedig a’r tystion posibl.